Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2023
Amser:
09.00 -
12.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13294
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jenny Rathbone AS (yn lle Jack Sargeant AS) Joyce Watson AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Steve Elliot, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru Nick Wood, Llywodraeth Cymru Alex Slade, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant MS ac roedd Jenny Rathbone yn bresennol ar ei ran fel dirprwy.
1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a swyddogion Llywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu:
• Y canllawiau yr oedd wedi’u rhoi i’r byrddau iechyd ar y chwe blaenoriaeth a ddylai fod yn sail i’w Cynlluniau Tymor Canolig Integredig 2023-24.
• Rhestr o’r dyraniadau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 sy’n cyfrannu at yr agenda iechyd ataliol.
3 Papur(au) i'w nodi
3.1 Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc.
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.5 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y ynghylch Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.6 Llythyr gan y Llywydd at yr holl Aelodau ynghylch blaenoriaethu busnes y Pwyllgor
3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.7 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau - 16 Tachwedd 2022
3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.8 Llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.9 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau - 19 Rhagfyr 2022
3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.10Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-34
3.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.11Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
3.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.12Llythyr at y Gweinidogion sy'n gyfrifol am Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 6 Hydref 2022
3.12 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.13Llythyr gan y Gweinidogion sy'n gyfrifol am Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 6 Hydref 2022
3.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.14Llythyr at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn edrych tua’r gorwel gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar 30 Tachwedd 2022 dystiolaeth ar 16 Gorffennaf 2020.
3.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer yr holl eitemau yn y cyfarfod ar 26 Ionawr 2023 ac eithrio’r sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Nyrsio Cymru.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a oedd wedi dod law
6 Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): trafod y cyngor
6.1 Trafododd y Pwyllgor y cyngor
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
7 Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y cyngor
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
8 Ymweliad â Phrifysgol De Cymru: nodyn drafft
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y nodyn drafft.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyhoeddi’r nodyn ar y wefan.